Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Thursday 4 October 2012

The Story of Wales: England and Wales





Castell Gwydir, Sir Gaernarfon
DS2007_340_012  NPRN 26555

Bydd trydedd raglen “The Story of Wales” yn cael ei dangos heno ar BBC2 am 7pm.  Yn dwyn y teitl “England and Wales”, mae’r rhaglen hon yn trafod Cymru yn yr Oesoedd Canol ac yn canolbwyntio ar sut y bu i Harri VII gipio coron Lloegr a sefydlu’r llinach Duduraidd. Mae sawl adeilad pwysig yn cael sylw yn y rhaglen hon, gan gynnwys cartref teuluol y Tuduriaid, Plas Penmynydd ar Ynys Môn, Castell Gwydir, a ailgodwyd gan Meredith ap Ieuan ap Robert ar ôl Rhyfeloedd y Rhosynnod, ac, yn olaf, Mathafarn yn Sir Drefaldwyn, eiddo Dafydd Llwyd ym 1485, lle yr arhosodd Iarll Richmond (y Brenin Harri VII yn ddiweddarach) y noson cyn brwydr Maes Bosworth.

Cysylltau i’r safleoedd sy’n cael sylw yn y 3edd raglen:
I’r rheiny sydd â diddordeb, mae’r Athro Ralph Griffiths yn gosod y cefndir yng nghyhoeddiad canmlwyddiant y Comisiwn Brenhinol, Trysorau Cudd : Hidden Histories, yn ei drafodaeth awdurdodol ar yr Oesoedd Canol, a pharheir â’r stori yn y bennod ar “Cymru Fodern Gynnar” gan Richard Suggett. Efallai yr hoffai gwylwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am adeiladau Cymru yn yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar, gan gynnwys Gwydir, ddarllen Cartrefi Cefn Gwlad Cymru : Introducing Houses of the Welsh Countryside gan Richard Suggett a Greg Stephenson, pris £14.95, neu £13.50 gyda’r disgownt o 10% sydd ar gael i Gyfeillion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i siop lyfrau ar-lein y Comisiwn Brenhinol neu ffoniwch 01970 621200.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails