Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Wednesday 7 December 2011

Capeli Heddiw – Angen Gwybodaeth!





Interior view of Ebenezer Chapel, Tumble
NPRN:6570    DI2008_0364

 Gan i chwe mil a hanner o gapeli gael eu codi ar hyd a lled Cymru yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, mae’r capel anghydffurfiol yn rhan o dirwedd wledig, drefol a diwydiannol Cymru. Ond erbyn heddiw mae’r capeli’n diflannu o’n bywydau ni bron mor gyflym ag y cawson nhw eu codi yn nyddiau eu bri.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi bod wrthi’n gweithio ar brosiect enfawr i gofnodi’r capeli hynny, ac agwedd bwysig ar y gwaith yw ystyried yr hyn sy’n digwydd i adeiladau’r capeli heddiw. Gwaith yr arolwg hwn yw ceisio dod o hyd i statws pob capel unigol: a yw’n dal i fod yn ‘gapel’ (y cynhelir gwasanaethau ynddo), wedi’i addasu at ddiben arall, wedi’i ddymchwel, yn adfeilion, neu’n rhywbeth arall. Os bu trosi arno, rydyn ni’n cofnodi’r defnydd newydd ohono a byddwn ni hefyd yn nodi unrhyw gapel sydd wrthi’n cael ei werthu neu’n mynd drwy broses gynllunio.

Amrywio’n fawr wna’r sylw a gafodd gwahanol rannau o Gymru hyd yn hyn. Ym Môn, er enghraifft, does ond tri chapel, sef llai na 2% o’r cyfanswm gwreiddiol, na wyddon ni ddim oll am eu statws. Gwaetha’r modd, mae’r darlun o siroedd hanesyddol a threfol Morgannwg a Mynwy yn fwy cymhleth gan i ni gofnodi gwybodaeth am statws llai na hanner capeli’r gyntaf a thraean o gapeli’r ail.

A allech chi’n helpu ni i gofnodi’r defnyddio presennol sydd ar gapeli? Ein nod yw cwblhau’r elfen hon o’r ymchwil erbyn diwedd Rhagfyr 2011. Gallwch chi gael rhestri o’r capeli rydyn ni’n chwilio am wybodaeth amdanyn nhw gan anne.harris@cbac.gov.uk neu susan.fielding@cbac.gov.uk

Diolch yn fawr iawn i chi ymlaen llaw am unrhyw gymorth y gallwch chi ei roi.


Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RRS button and subscribe!

Also find us on: Facebook Twitter Flickr
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails